Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Mai 2013
i'w hateb ar 15 Mai 2013

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw'r Gweinidog yn fodlon ar y meini prawf a ddefnyddir gan y Grŵp Meddyginiaethau Newydd ar gyfer gwneud argymhellion ar gyffuriau newydd yng Nghymru? OAQ(4)0269(HSS)

 

2. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflenwad ac argaeledd meddyginiaeth HIV gwrth-retrofeirysol yng Nghymru? OAQ(4)0266(HSS)

 

3. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd cyffuriau ar gyfer clefydau prin yn y GIG?  OAQ(4)0270(HSS)W

 

4. Lynne Neagle (Torfaen):  A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran gwasanaethau cymdeithasol yn Nhorfaen ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)0282(HSS)

 

5. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd yr agenda gofal gydag urddas i bobl hŷn sy'n byw yng Nghymru? OAQ(4)0281(HSS)

 

6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r cynnydd o ran y Ganolfan Gofal Arbenigol a Chritigol ar gyfer Gwent? OAQ(4)0277(HSS)

 

7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr achosion o'r frech goch yn ardal de-orllewin Cymru? OAQ(4)0268(HSS)

 

8. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa dargedau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu pennu i leihau nifer yr achosion o ysmygu ymhlith menywod beichiog yng Nghymru? OAQ(4)0271(HSS)

 

9. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer gwella mynediad i ofal sylfaenol yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0279(HSS)

 

10. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ad-drefnu gwasanaethau ysbytai ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda? OAQ(4)0283(HSS)

 

11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):  Pa bolisïau a strategaethau sy'n cael eu hadolygu ynglŷn â lleoliadau ffisegol unedau dydd oncoleg yn ysbytai Cymru? OAQ(4)0272(HSS)

 

12. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal adolygiad o'r gwasanaethau prostheteg brys sydd ar gael yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0273(HSS)W

 

13. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau IVF sydd ar gael ar GIG Cymru? OAQ(4)0278(HSS)

 

14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo hosbisau yng Nghymru. OAQ(4)0284(HSS)

 

15. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa welliannau sydd wedi eu cyflwyno i’r gwasanaethau ar gyfer plant sydd yn dioddef o ddiabetes? OAQ(4)0274(HSS)W

 

Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

 

Ni Chyflwynwyd Unrhyw Gwestiynau

 

Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

1. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): A yw'r Gweinidog wedi gwneud unrhyw asesiad ynghylch goblygiadau ariannol diwygio lles? OAQ(4)0034(CTP)W

 

2. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Bil Datblygu Cynaliadwy? OAQ(4)0035(CTP)W

 

3. Alun Ffred Jones (Arfon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella profiadau plant byddar a'r rhai sydd â nam ar y clyw? OAQ(4)0028(CTP)W

 

4. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth ariannol y gall ei ddarparu i bobl sy'n byw mewn tlodi. OAQ(4)0038(CTP)

 

5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):  Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda gweinidogion cyfatebol y DU yn Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth ynglŷn â chydraddoldeb rhywiol? OAQ(4)0029(CTP)

 

6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb yn y 12 mis nesaf? OAQ(4)0027(CTP)

 

7. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo'r defnydd o undebau credyd? OAQ(4)0036(CTP)

 

8. Christine Chapman (Cwm Cynon):  Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i drechu tlodi yng Nghwm Cynon? OAQ(4)0022(CTP)

 

9. Elin Jones (Ceredigion): Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i drechu tlodi mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0021(CTP)W

 

10. Sandy Mewies (Delyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yn y gweithlu? OAQ(4)0033(CTP)

 

11. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo Undebau Credyd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0031(CTP)

 

12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â materion o ran cefnogi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn? OAQ(4)0030(CTP)

 

13. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn trechu tlodi mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0032(CTP)

 

14. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o gynnydd ar ddangosyddion sylfaenol yn Strategaeth Tlodi Plant Cymru? OAQ(4)0037(CTP)

 

15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn wneud i hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru? OAQ(4)0025(CTP)